top of page

Oedfa Gymraeg

Bob bore dydd Sul rydyn ni’n cwrdd am 9.30 i addoli Duw gyda’n gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso cynnes i bawb sy’n cerdded trwy ein drysau, yn arbennig i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg. Mae nifer o’n cynulleidfa wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith.

 

Rydyn ni’n mwynhau dathlu cariad Duw trwy weddi, cerddoriaeth a rhannu addysgu o’r Beibl yn ogystal â ddod yn nabod ein gilydd yn well dros gwpaned o de neu goffi ar ôl y gwasanaeth yn y festri. Yn aml, mae pobl sy’n mynd i’r Oedfa Saesneg yn ymuno â ni cyn eu gwasanaeth nhw, sy’n rhoi cyfle i ni gwrdd â’n gilydd.

bottom of page